Rhif y ddeiseb: P-06-1259

Teitl y ddeiseb: Gwahardd bagiau baw cŵn nad ydynt yn fioddiraddiadwy

Geiriad y ddeiseb: Mae bagiau plastig gwastraff cŵn yn para am ganrifoedd, ac maent yn cael effaith negyddol sylweddol ar yr amgylchedd. Hyd yn oed pan fyddant yn torri’n ddarnau llai yn y pen draw, maent yn dal i fodoli fel microplastigau gwenwynig, sy’n peryglu iechyd pobl a bywyd gwyllt.

 


1.        Cefndir

Mae tua naw miliwn o gŵn yn y DU, gyda 26% o gartrefi yn berchen ar o leiaf un ci. Amcangyfrifwyd bod cŵn yn cynhyrchu mwy na 1,000 o dunelli o ysgarthion bob dydd yn y DU ac mae llawer o’r gwastraff hwn yn cael ei ollwng mewn mannau cyhoeddus.

Mae amrywiaeth eang o fagiau baw cŵn ar gael i’w prynu – o rai plastig safonol i fagiau bioddiraddadwy. Mae bagiau gwastraff cŵn fel arfer yn cael eu gwaredu mewn biniau gwastraff cyffredinol (“bagiau du”). Mae’n anghyfreithlon i berchnogion cŵn beidio â glanhau baw eu cŵn mewn man cyhoeddus, a gellir rhoi hysbysiadau cosb benodedig am ddiffyg cydymffurfio. Mae esemptiad ar gyfer rhai mathau o dir cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys: tir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth neu goetiroedd; tir comin gwledig; tir sy’n gorstir, rhostir neu weundir yn bennaf; a phriffyrdd gyda therfyn cyflymder o 50mya neu fwy. Mae rhai awdurdodau lleol yng Nghymru hefyd yn rhoi dirwyon i berchnogion cŵn sy’n mynd â’u hanifeiliaid anwes am dro heb gario bagiau gwastraff. Mae rhagor o wybodaeth am faw ci ar gael yn nogfen brifio llyfrgell Tŷ’r Cyffredin.

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ar gyfer yr economi gylchol, Mwy nag Ailgylchu, sy'n cynnwys fel un o’i phrif gamau y nod o “roi’r gorau’n raddol i ddefnyddio eitemau untro diangen”. Rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2020 ymgynghorodd ar gynigion i leihau plastig untro. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys rhestr arfaethedig o naw eitem i'w gwahardd gan gynnwys cynhyrchion oxo-ddiraddadwy (cynhyrchion plastig sy’n torri i lawr trwy ocsidiad yn ficro-darnau). Mae enghreifftiau yn cynnwys bagiau siopa, ffilmiau tomwellt amaethyddol ac, yn fwyaf diweddar, rhai poteli plastig. Nid yw’r ymgynghoriad yn sôn yn benodol am fagiau baw cŵn, ond oherwydd yr amrywiaeth eang sydd ar gael i’w prynu mae’n debygol y byddai rhai yn dod o dan y categori hwn.  Fodd bynnag, mae Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 wedi creu ansicrwydd ynghylch pa mor ymarferol fyddai gwahardd plastig untro, oherwydd y byddai dal modd gwerthu unrhyw blastig untro a waharddwyd yng Nghymru pe bai’n cael ei fewnforio neu ei ganiatáu yng ngweddill y DU.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cyhoeddi dau adroddiad ar faw cŵn: Taclo Baw Cŵn a Gorfodi Gollwng Sbwriel a Baw Cŵn. Mae’r cyntaf yn cyfeirio at waith Canolfan Newid Ymddygiad Cymru, Prifysgol Bangor a rhanddeiliaid, a ddaeth i’r casgliad nad yw llawer o bobl yn sylweddoli y gallant roi bagiau baw cŵn mewn biniau stryd, gan greu rhwystr rhag ymddwyn yn gyfrifol. Nid yw'r naill adroddiad na’r llall yn trafod bagiau gwastraff nad ydynt yn fioddiraddadwy.

 

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae’r llythyr gan y Gweinidog Newid yn yr Hinsawdd, Julie James, yn amlinellu nifer o heriau sy’n gysylltiedig â gwahardd bagiau gwastraff cŵn nad ydynt yn fioddiraddadwy, gan gynnwys:

§    Amrywiad yn y deunyddiau a ddefnyddir ar gyfer gwneud bagiau “ecogyfeillgar”. Dywed fod “bagiau compostadwy” wedi’u gwneud o ddeunyddiau naturiol sy’n aml yn gofyn am amodau penodol o wres a thymheredd er mwyn pydru, nad ydynt i’w cael yn yr amgylchedd naturiol;

§    Canlyniad anfwriadol posibl pobl yn peidio â chael gwared ar eu bagiau’n briodol gan eu bod yn credu y byddant yn torri i lawr yn gyflym ac yn ddiogel.

Mae’r Gweinidog yn credu mai’r ffordd fwyaf effeithiol o fynd i’r afael â’r mater yw sicrhau bod perchnogion cŵn yn casglu baw cŵn ac yn cael gwared arno’n briodol mewn biniau. Mae’n amlinellu bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol a Cadwch Gymru’n Daclus, gan gynnwys ariannu’r rhaglen Caru Cymru, sy’n ymgyrch benodol sy’n canolbwyntio ar faw cŵn.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Nid yw mater bagiau gwastraff cŵn bioddiraddadwy wedi cael ei ystyried yn y Senedd.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.